Clwb Brecwast

Cynhelir y clwb brecwast rhwng 8.00yb - 8.45yb o fore Llun i fore Gwener. Cynigir brecwast iach a maethlon am ddim, i blant cofrestredig, gyda dewis o grawnfwyd, ffrwythau, sudd a tost. Er mwyn cael brecwast, rhaid cyrraedd erbyn 8.35yb.
Mae angen i rieni sydd am gymryd mantais o'r clwb ardderchog yma sicrhau fod eu plant wedi cofrestru.
Am fwy o wybodaeth neu ffurflen cofrestru, cysylltwch a Mrs Meirwen Evans, Cynorthwydd Clwb Brecwast.
Llongyfarchiadau i staff y Clwb Brecwast am gael y Wobr Aur gan Wasanaeth Arlwyo Sir Gâr.
Gofynnir i chwi er diogelwch i fynd a'r plant i mewn i'r neuadd ac i gadw'r drws allanol ar gau. Hefyd gofynnir i chwi wneud yn siwr eich bod yn cau’r iet bob amser gan ddefnyddio’r gadwyn a ddarperir.
Diolch am eich cydweithrediad.