Ailgylchu
Mae gan bob dosbarth y cyfleusterau i ailgylchu gwastraff papur a charden. Yn ogystal â hyn mae yna gyfleusterau ychwanegol gan y cyfnod sylfaen ar gyfer ailgylchu poteli llaeth plastig.
Yn ddiweddar cawsom ymweliad gan aelodau o dîm ailgylchu'r awdurdod a ddaeth a biniau ailgylchu newydd i ni a bu aelodau o gyngor eco'r ysgol yn helpu i baratoi a dosbarthu'r biniau, yn atgyfnerthu neges ailgylchu wrth wneud.
Rydym newydd dderbyn nifer o finiau bwyd gwyrdd a fydd yn cael eu defnyddio i gasglu gwastraff ein siop ffrwythau a chroen llysiau o'r gegin a fydd hwn yn cael eu compostio a defnyddio yn ardd yr ysgol.