Gwersylloedd yr Urdd
Fel aelodau o'r Urdd, bydd cyfle i ddisgyblion cyfnod allweddol 2 i aros yng ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog, ble gallant nofio, marchogaeth ceffylau, sgio, llafnrolio a gwibgartio. Bydd hefyd gyfle i ddisgyblion blwyddyn 6 i aros yng ngwersyll yr Urdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd. Yma gallant cael flas ar ddanteithion y ddinas, taith o amgylch Stadiwm y Milemiwn, Techniquest, taith mewn cwch cyflym o amgylch y bae neu mwynhau noswaith yn y sinema neu theatr.